PL 30
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Ymchwiliad i: Lyfrgelloedd Cyhoeddus
Ymateb gan: Comisiynydd Pobl Hyn Cymru
Ymateb Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i
Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Lyfrgelloedd Cyhoeddus
Ionawr 2014
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymateb hwn, cysylltwch â:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru,
Adeiladau Cambrian,
Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd, CF10 5FL
08442 640670
Am y Comisiynydd
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais annibynnol ac yn hyrwyddwr ar ran pobl hŷn ledled Cymru, gan sefyll drostynt a siarad ar eu rhan. Mae’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n agored i niwed ac mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn sicrhau bod gan yr holl bobl hŷn lais sy’n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig nac yn dioddef gwahaniaethu yn eu herbyn a’u bod yn cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen. Sbardunir gwaith y Comisiynydd gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy ac mae eu llais wrth galon popeth mae’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd y gweithio i sicrhau bod Cymru’n lle da i heneiddio ynddo – nid dim ond i rai pobl, ond i bawb.
Y Comisiynydd Pobl Hŷn:
· Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
|
· Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. |
|
· Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru. |
|
· Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru
1. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru croesawaf y cyfle i ymateb i’r ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i ddarparu sylwadau yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion. Fe wnaf ymateb i’r materion fel ag y’u hamlinellwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn y llythyr ymgynghori.
2. Fel llais a phencampwraig annibynnol dros bobl hŷn, rwyf yn awyddus i edrych ar waith a rhaglenni deddfwriaethol holl adrannau’r Llywodraeth a chael sicrwydd fod pobl hŷn a’u materion yn cal eu hymgorffori ac i ganfod tystiolaeth o effaith glir ar fywydau pobl hŷn.
Y rôl gyfoes a chymunedol sydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru
3. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan enfawr ym mywydau pobl hŷn a grwpiau oedran eraill ar draws Cymru. Fel mae’r nifer uchel o ymatebion ymchwiliad yn dangos, mae llyfrgelloedd yn bwysig i ystod o unigolion ac hapddalwyr. Mae llyfrgelloedd yn rhoi lleoliadau corfforol i bobl hŷn (hyn yn enwedig bwysig mewn ardaloedd gwledig gydag ychydig o opsiynau eraill) er mwyn dod at ei gilydd mewn cyd-destun cyhoeddus mewn byd sydd yn cyfyngu ei hun fwyfwy i’r we ac ymgysylltu ar-lein.
4. Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan ganolog yn ein cymunedau, ac yn cyfrannu i’n lles cymdeithasol, addysgiadol, diwylliannol ac economaidd. Mae llyfrgelloedd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae’r llyfrgell leol yn darparu rôl gymdeithasol a dinesig o fewn cymunedau, yn cyfrannu at synnwyr pobl o les cymdeithasol a’r teimlad o berthyn. Mae ‘bibliotherapi’ er enghraifft yn medru gwneud gwahaniaeth sylweddol i les a iechyd unigolyn.
5. I bobl hŷn sydd mewn tlodi, mae’r adnoddau am ddim a ddarperir gan lyfrgelloedd yn hollbwysig; o’u cymharu gyda chyfleusterau diwylliannol eraill, caiff llyfrgelloedd eu defnyddio gan ganran uchel o bobl o ardaloedd difreintiedig. Mae defnyddwyr llyfrgelloedd yn medru arbed ar gannoedd o bunnoedd trwy fenthyca llyfrau yn hytrach na’u phrynu.
6. Mae gan Gymru rwydwaith o lyfrgelloedd cyhoeddus, addysgiadol ac arbenigol sydd yn darparu mynedfa i ystod eang o adnoddau. Mae llyfrgelloedd yn gynhwysol; maent yn agored i holl aelodau’r gymuned ac mae aelodaeth am ddim. Fel ag a amlinellwyd mewn un ymateb ymchwiliad, mae llyfrgelloedd yn “llinyn achub bywyd” i bobl hŷn. Mae llyfrgelloedd yn darparu ystod o wasanaethau[1] sydd yn helpu i sicrhau iechyd a lles pobl hŷn:
- Darparu mynedfa i’r we a chyrsiau am ddim e.e. sesiynau ‘silver surfer’ i helpu gyda llythrennedd e-iechyd, mynd i’r afael â diffyg sgiliau technoleg gwybodaeth a’r bwlch ddigidol, cynyddu hyder ac ysgogiad trwy ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth i ymgysylltu gyda’r we;
- Darparu mynedfa i adnoddau ansawdd uchel mewn ystod o fformatau, gan gynnwys y rheini yn y Gymraeg;
- Cefnogi pobl hŷn i fyw bywydau annibynnol a lleihau alltudiaeth;
- Rhoi hyder ac annog cymdeithasu ymysg pobl hŷn trwy e.e. ddarllen rhanedig/grwpiau darllen ar lafar;
- Darparu rhwydwaith o amgylcheddau sydd yn hawdd i’w cyrraedd, nad sy’n fygythiol, ac sy’n gynhwysol;
- Mae llyfrgelloedd yn amgylcheddau nad ydynt yn gwahaniaethu ar sail feddygol, felly nid oes stigma ynghlwm wrthynt;
- Darparu ‘llyfrau sy’n siarad’, llyfrau gyda phrint bras neu feddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i’r rheini gyda phroblemau gweld;
- Darparu dolenni cymdeithasol a chymunedol i bobl a all ei chael hi’n anodd i gymdeithasu ffordd arall.
7. Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru record ardderchog o weithio mewn partneriaeth, a thrwy helpu y baich ar wasanaethau cymdeithasol a gofal y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, lleihau alltudiaeth, grymuso pobl i dderbyn gwybodaeth am ddim, a darparu dolenni cymdeithasol a chymunedol, mae’r manteision o lyfrgelloedd i bobl hŷn yn sylweddol.
8. Mae llyfrgelloedd hefyd yn helpu i gyrraedd grwpiau anodd eu chyrraedd mewn cymunedau. Mae gwasanaethau llyfrgell dolenni-cartref yn mynd â llyfrau i bobl nad ydynt yn medru gadael eu cartrefi eu hunain. Mae’r cyfuniad o gysylltu personol a deunydd darllen yn mynd i’r afael ag alltudiaeth gymdeithasol a chyfrannu at les pobl hŷn nad sy’n medru ymweld a’u llyfrgell lleol.
I ba raddau y gwnaed cynnydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy’n ymwneud â llyfrgelloedd, a pha mor gynaliadwy yw unrhyw gynnydd yn yr hinsawdd sydd ohoni
I ba raddau y mae’r fframweithiau deddfwriaeth a pholisi presennol yn addas i ateb yr heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru
Pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer lliniaru effaith toriadau yn y sector gyhoeddus ar wasanaethau llyfrgelloedd
9. Ar draws y D.U., mae mwy o bobl hŷn yn ymweld â llyfrgelloedd; ymwelodd 43% o oedolion rhwng 65-74 oed y llyfrgell yn 2010/11 o’i gymharu â 39% yn 2009/10[2]. Er hynny, mae 439 llyfrgell wedi cau ar draws y D.U. ers 2010, gyda 280 arall o dan fygythiad[3]. Mae ymweliadau â llyfrgelloedd yng Nghymru[4] (13.25 miliwn yn 2002/3, 14.72 miliwn yn 2011/12) yn gyson uwch nag ymweliadau â llyfrgelloedd yn Lloegr (323 miliwn yn 2002/3, 306 miliwn yn 2011/12).
10. Er y cynnydd mewn niferoedd ymwelwyr, ac er eu bod yn llefydd effeithiol yn ariannol (mae llyfrgelloedd yn costio dim ond 5c i bob person, yn ddyddiol ar gyfartaledd i’w weithredu[5]), mae dyfodol sawl llyfrgell cyhoeddus ar draws Cymru yn ansicr. Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn cynnig cau lawr llyfrgelloedd i wneud arbedion costau, gyda disgwyl i sawl un cau erbyn mis Mawrth 2014.
11. Dangosodd ymchwil yn 2011 fod 16% o’r awdurdodau lleol a gymerodd ran wedi nodi llyfrgelloedd a dysgu cymunedol fel gwasanaethau gyda thargedau arbedion cyfatebol fwy, gyda 10% o awdurdodau lleol yn nodi llyfrgelloedd fel y gwasanaeth diwylliannol a fyddai’n cael ei heffeithio’n fwyaf gan doriadau cyllidol[6].
12. Mae’r cynigion i gau llyfrgelloedd yn pryder mawr. Heb llyfrgelloedd, mae pobl hŷn o dan risg cynyddol o deimlo’n unig, alltudiaeth cymdeithasol ac iselder. Mae gan awdurdodau lleol gofyniad statudol fodd bynnag i ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol o dan y Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964[7]. Os yw awdurdodau lleol yn parhau gyda’r cynigion i gau llyfrgelloedd, yna mae ganddynt ofyniad cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau llyfrgell sydd yn golygu gymaint i pobl hŷn a grwpiau oedran eraill trwy modelau ac ymagweddau eraill.
13. Fe fydd cau lawr llyfrgelloedd yn eu gwneud yn anos i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen i Lywodraethu[8] (gwneud mynedfa ehangach i lyfrgelloedd, sicrhau fod awdurdodau lleol yn cwrdd â safonau cenedlaethol o ddarpariaeth llyfrgell cyhoeddus) a’r Fframwaith Datblygu Strategol ‘Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli’[9] (galluogi pobl hŷn i ddefnyddio technolegau digidol a byw bywydau annibynnol trwy wasanaethau llyfrgell).
14. Gyda llyfrgelloedd ar draws Cymru wedi’u nodi i gau, fe fydd cefnogaeth ariannol ar gyfer gwasanaethau llyfrgell o Lywodraeth Cymru, megis y cyhoeddiad £2.17 miliwn yn mis Ebrill 2013, yn fwyfwy pwysig. Mae’n hollbwysig fod pobl hŷn yn parhau i fanteisio o gynlluniau megis Rhaglen Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru[10].
Opsiynau ar gyfer gwella cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau llyfrgelloedd, gan gynnwys modelau amgen ar gyfer eu darparu
15. Mae angen ystyried ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau llyfrgell a dysgu lleol yn dilyn y cynigion i gau lawr nifer o llyfrgelloedd ar draws Cymru. Mae llyfrgelloedd symudol yn opsiwn, ond efallai yn anodd ei chyrraedd i bobl hŷn sydd yn byw mewn ardaloedd gyda niferoedd poblogaeth bach.
16. Mae angen ystyried arloesedd ac ymagweddau cost-effeithiol o lefydd eraill e.e. mae ‘Idea Stores’[11] yn Tower Hamlets, Llundain, yn ail-ystyriaeth radical o’r cysyniad llyfrgell traddodiadol, tra disgrifir Cysyniad Llyfrgell Delft yn yr Iseldiroedd fel ‘llyfrgell cyhoeddus entrepreneuraidd’[12]. Mae’n rhaid i unrhyw fodelau newydd cael isadeiledd a chyfleusterau sydd yn gyfeillgar i bobl o bob oedran, yn darparu mynedfa rhwydd i wasanaethau llyfrgell ar gyfer pobl hŷn.
17. Mae’n ymddangos mewn cyfnod o lymder, fod angen llyfrgelloedd cyhoeddus am ddim gan bobl hŷn yn fwy nag erioed a grwpiau oedran eraill yn ogystal. Mae hefyd yn ymddangos, gyda lefelau digonol o gydnabyddiaeth, cefnogaeth a buddsoddi, y gall llyfrgelloedd cyhoeddus gwneud cymaint mwy i bobl hŷn yng Nghymru.
18. Fe wnaf weithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod llyfrgelloedd fel lleoliadau hollbwysig i bobl hŷn fedru dod at ei gilydd, dysgu sgiliau newydd, a parhau i fod yn rhan o’r gymuned, a gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau cydymffurfiad a’r gofyniad statudol i ddarparu gwasanaethau llyfrgell i bobl hŷn. Edrychaf ymlaen hefyd at barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar fy adroddiad arfaethedig (i’w gyhoeddi yn mis Chwefror) ar yr angen i warchod gwasanaethau cymunedol hanfodol, gan gynnwys llyfrgelloedd, i bobl hŷn yn yr hinsawdd economaidd cyfredol.